ATW06 Comisiynydd Plant Cymru

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus | Public Accounts and Public Administration Committee

Teithio Llesol yng Nghymru | Active Travel in Wales

Ymateb gan: Comisiynydd Plant Cymru | Evidence from: Children’s Commissioner for Wales

 

Ymateb i Ymgynghoriad / Consultation Response

Date / Dyddiad:  28 Mawrth 2025

Subject / Pwnc:  Ymchwiliad Teithio Llesol

Gwybodaeth gefndir am Gomisiynydd Plant Cymru   

Prif nod Comisiynydd Plant Cymru yw diogelu a hybu hawliau a lles plant. Wrth ymarfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Comisiynydd ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae cylch gorchwyl y Comisiynydd yn cwmpasu holl feysydd pwerau datganoledig y Senedd sy’n effeithio ar hawliau a lles plant.   

Cytuniad hawliau dynol rhyngwladol yw CCUHP, ac mae’n berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu CCUHP yn sylfaen ar gyfer llunio pob polisi i blant a phobl ifanc ac mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, wrth ymarfer eu swyddogaethau, i roi ‘sylw dyledus’ i CCUHP.    

Nid wyf wedi ymateb i’r holl benodau a chwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn; yn hytrach, rwyf wedi canolbwyntio ar y rhai mwyaf perthnasol i’m swyddogaeth a’m cylch gorchwyl. 

Nid yw’r ymateb hwn yn gyfrinachol.

Materion Misol

Cyfres barhaus o gwestiynau pynciol rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc yn fisol yw Materion Misol. Y nod yw clywed eu barn ar amrywiaeth o faterion, ac rydyn ni’n rhannu’r ymgyngoriadau’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sydd wedi ymuno â’n cynlluniau hawliau plant i ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.  

Fel rhan o’r pecyn arolwg, dangosir fideo sy’n cyflwyno’r pwnc i’r plant a’r bobl ifanc, a gofynnir iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau, y gallan nhw gael amser i’w trafod gyda’i gilydd cyn ateb yr arolwg. Mae gan ysgolion a grwpiau ddau ddewis wrth gwblhau’r arolwg; gall y plant a’r bobl ifanc wneud hynny’n annibynnol, neu gall athro neu arweinydd grŵp gwblhau’r arolwg ar ran y grŵp trwy ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.   Teithiau i’r Ysgol

https://www.complantcymru.org.uk/wp-content/uploads/2024/06/Front-CoverSchool-Journeys-Paper-Welsh-Version.pdf  

Yn ystod mis Ebrill 2024 fe wnaethon ni ofyn i blant a phobl ifanc roi eu barn ar eu teithiau i’r ysgol ar ffurf arolwg.  

Atebodd cyfanswm o 891 o blant a phobl ifanc unigol yr arolwg, o rai 6 oed a than hynny, hyd at rai 17 oed. Bu 1,699 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u safbwyntiau. Fe gawson ni ymatebion o 12 ardal awdurdod lleol. 

Cafwyd y gyfran uchaf o ymatebion gan blant sy’n cerdded i’r ysgol (386) – 42%.  Ond yn dilyn hynny’n agos roedd y rhai sy’n mynd i’r ysgol yn y car (365) – 40%.

Er bod y rhan fwyaf o’r plant a ymatebodd, diolch byth, yn teimlo’n ddiogel, roedd nifer o ymatebion yn amlygu pryderon diogelwch cysylltiedig â theithio i’r ysgol. Dywedodd 3% eu bod nhw ddim yn teimlo’n ddiogel yn teithio i’r ysgol, a dywedodd 15% mai dim ond weithiau roedden nhw’n teimlo’n ddiogel. Roedd yr atebion mwyaf cyffredin yma yn ymwneud ag ymddygiad pobl eraill, a allai rwystro rhagor o blant rhag defnyddio teithio llesol i gyrraedd yr ysgol. 

Roedd rhai sylwadau yn amlygu bod traffig, methu croesi ffyrdd, a cheir yn cyfrannu at wneud y daith i’r ysgol yn anodd.  

Roedd plant yn mwynhau amser cymdeithasol gyda’u ffrindiau fel rhan o’u taith i’r ysgol, ond yn nodi effaith tywydd gwael a thraffig oedd yn symud yn gyflym fel rhwystrau oedd yn gwneud eu taith i’r ysgol yn anodd.  

Rhannwyd canfyddiadau’r arolwg hwn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.  

Mewn perthynas â’r ymchwiliad hwn, rwy’n nodi’r disgwyl bod gan ysgolion gynlluniau teithio llesol. Dwy ddim yn gyfarwydd â chynlluniau teithio llesol ysgolion, ond rwy’n nodi bod angen iddynt fabwysiadu camau fydd yn arafu traffig a lledu’r palmant ger ysgolion. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad materion misol hwn yn dangos bod trafferthion yn parhau yng nghyswllt diogelwch a phroblemau traffig yn ymyl ysgolion, a bod hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar ddewisiadau teithio llesol. Mae’n eglur bod rhagor i’w wneud i sicrhau bod teithio llesol yn ddewis diogel, deniadol i blant ledled

Cymru.                                                 

Yr Amgylchedd

Yn ystod mis Tachwedd 2024 fe wnaethon ni holi plant a phobl ifanc sut maen nhw’n helpu’r amgylchedd gartre, yn yr ysgol, ac yn eu cymuned, a pha mor ymwybodol ydyn nhw o weithredu lleol a chenedlaethol yn y maes hwn. 

https://www.complantcymru.org.uk/wp-content/uploads/2025/01/HelpurAmgylchedd-Holiadur-Ciplun-o-Blant-a-Phobl-Ifanc-yng-Nghymru-1.pdf  

Atebodd 494 o blant a phobl ifanc unigol yr arolwg. Bu 626 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn.

Bu ystod eang o oedrannau’n cymryd rhan, o blant oedd o dan 6 oed hyd at rai 18 oed. Fe gawson ni ymatebion o 16 ardal awdurdod lleol. 

Fe ofynnon ni i’r plant “Beth rydych chi a’ch teulu/gofalwyr yn gwneud gartre i helpu’r amgylchedd?” gyda rhestr o gamau posib gallen nhw eu dewis (doedd dim terfyn ar faint gallen nhw ddewis).

Dim ond 30% o’r ymatebwyr nododd Teithio Llesol e.e. cerdded/beicio/mynd ar sgwter yn hytrach na defnyddio’r car (n=151).

Dewisodd 44% o ymatebwyr opsiwn yn y cwestiwn dilynol i ddweud bod eu hysgol neu eu grŵp cymunedol yn eu hannog i gerdded, beicio neu fynd ar sgwter i’r ysgol, neu ddal y trên neu’r bws (n=220).

Pan ofynnwyd ‘Beth arall hoffech chi i’ch ysgol neu eich grŵp cymunedol wneud?’, dewisodd 20% ‘annog disgyblion i gerdded, beicio neu fynd ar sgwter i’r ysgol, neu ddal y trên neu’r bws’ (n=100).

Pan ofynnwyd iddyn nhw oedden nhw’n gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu’r hinsawdd/amgylchedd, dewisodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr “Dwy ddim yn gwybod” (n=238) - 47% neu “Na” (n=165) - 33%.  Dim ond 20% ddywedodd eu bod yn gwybod am y camau mae LlC yn eu cymryd yn y cyswllt hwn (n=100). 

O ystyried y canfyddiadau hyn, byddai gwybodaeth hwylus i blant am y camau sy’n cael eu cymryd yng Nghymru, a chyfleoedd i weithredu i helpu’r amgylchedd, o gymorth i hybu gweithredu ynghylch yr hinsawdd ymhellach, gan gynnwys cynyddu’r gefnogaeth i deithio llesol.  

Llwybrau addas

Mae gan blant ysgol gynradd hawl gyfreithiol i drafnidiaeth am ddim os oes rhaid iddyn nhw gerdded mwy na dwy filltir o’u cartref i’r ysgol, ac yn achos disgyblion uwchradd, tair milltir yw’r trothwy.

Yn ffodus, mae awdurdodau lleol yn hanesyddol wedi bod yn fwy hael na’r isafswm cyfreithiol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda llawer yn gostwng terfynau milltiredd lleol er mwyn cefnogi pobl ifanc yn ddigonol.

Fodd bynnag, wrth i gyllidebau gael eu cywasgu fwyfwy, mae mwy o gynghorau’n dewis cadw at yr isafswm cyfreithiol gofynnol ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn ymarferol mae hynny’n golygu bod rhai plant yn cerdded hyd at chwe milltir y dydd, yn cychwyn am yr ysgol am 6.30am ym mhob tywydd, ac weithiau’n dilyn llwybrau mae teuluoedd yn barnu sydd yn anniogel ac yn anaddas. Rydyn ni wedi clywed am achosion o blant yn gorfod cerdded ar draws tir comin lle mae ceffylau gwyllt, lawr lonydd ochr, ac ar hyd llwybrau camlas heb olau na gwelededd.

Hyd yn oed pan fydd gan blant hawl i drafnidiaeth ysgol am ddim, rydyn ni’n clywed trwy ein gwasanaeth Cyngor a Chymorth Hawliau Plant annibynnol am blant yn gorfod cerdded yn bell i gyrraedd pwyntiau casglu, gan gynnwys ar hyd ymylon glaswellt cul wrth ochr ffyrdd categori A prysur.

Ar ymweliad ysgol yr wythnos ddiwethaf, bu disgyblion yn rhannu eu pryderon gyda’m tîm ynghylch diffyg llwybrau addas iddyn nhw ddefnyddio teithio llesol i gyrraedd yr ysgol; roedden nhw i gyd yn gorfod talu am docyn bws yn lle hynny. Fe wnaethon nhw rannu manylion eu teithiau, a theithiau eu cyfoedion, gyda ffotograffau, oedd yn dangos ffyrdd heb balmant nac ymyl glaswellt, lonydd beicio oedd yn gul iawn a lle roedd arwyneb y ffordd yn anwastad, byrddau a chadeiriau caffis yn ffinio â’r llwybr, a mannau lle roedd rhaid croesi pedair lôn o draffig i gyrraedd cyffyrdd.   

Fe wnaethon nhw amlygu bod y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ddim yn adnabyddus lle maen nhw, a’u bod nhw ddim yn sicr sut i gyrraedd y llwybrau hynny, neu a oes digon o lwybrau yn y mannau angenrheidiol. 

Eu barn gyffredinol oedd bod beicio ar y llwybrau hyn ddim yn ddiogel ar sail y seilwaith presennol; roedden nhw’n barnu bod rhai llwybrau hyd yn oed yn beryglus i’w defnyddio mewn car.  

Roedd yn drawiadol eu bod wedi trefnu taith ymchwil i dynnu lluniau er mwyn rhannu eu barn gyda ni, ac wedi gwneud hynny yn ystod hanner tymor, yn hytrach na’r oriau brig, gan na fyddai’n ddiogel mynd ar hyd y llwybr yn ystod yr oriau brig.  

Adroddiad Ffyrdd Cynaliadwy

Yn 2023, clywodd aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru gan 1,300 o bobl ifanc am drafnidiaeth gynaliadwy, yn eu hadroddiad Ffyrdd Cynaliadwy. 

Er bod llawer o’r adroddiad yn delio â mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, roedd elfennau hefyd oedd yn ymwneud â theithio llesol, gan ddilyn yr hyn roedd fy nhîm wedi’i glywed yn ddiweddar.  

Beicio oedd yn cael ei ystyried yn opsiwn lleiaf diogel yng nghyswllt teithio llesol.

Dywedodd 41% eu bod yn teimlo’n ddiogel iawn neu’n weddol ddiogel, o gymharu â 53% wrth ystyried cerdded neu fynd ar olwynion. Roedd y bobl ifanc a ymatebodd i’r alwad am dystiolaeth hefyd yn teimlo bod llwybrau beicio yn llai cyfleus, mewn cyflwr gwaelach, ac yn llai hygyrch na llwybrau cerdded. Mater a godwyd gyda ni’n rheolaidd oedd y diffyg lonydd beicio, a phryderon ynghylch rhannu ffyrdd prysur gyda cheir. 

Dywedodd rhai pobl ifanc fod cost prynu beic yn eu hatal rhag ystyried beicio fel dull teithio. Dywedodd 36% eu bod yn defnyddio beic o leiaf bob wythnos neu bob pythefnos, o gymharu â 53%, a ddywedodd y bydden nhw’n hoffi beicio o leiaf bob wythnos neu bob pythefnos. 

Roedd llwybrau a phalmentydd yn cael eu hystyried yn “is na’r safon” mewn llawer o ardaloedd. Galwodd llawer o ymatebwyr am welliant yng nghyflwr a hygyrchedd llwybrau. Cyfeiriwyd at safon isel y seilwaith fel rhywbeth oedd yn rhwystro teithio llesol, oherwydd ei fod yn golygu nad oedd hwn yn ddewis deniadol, diogel na chyfleus i lawer. 

Yn union fel yn achos ein gwaith ar deithio i’r ysgol, nodwyd materion diogelwch hefyd mewn perthynas â theithio llesol. Yn ogystal â’r diffyg lonydd beiciau ar wahân a llwybrau hygyrch, codwyd yr angen am fannau diogel i barcio beiciau mewn lleoliadau addysg a chymunedau fel mater sy’n golygu nad yw pobl yn awyddus i feicio’n amlach. Dim ond 18% oedd yn teimlo bod diogelwch lleoedd parcio i feiciau yn dda neu’n dda iawn yn eu hardal. Roedd diffyg goleuadau stryd hefyd yn golygu bod rhai yn teimlo’n fwy agored i niwed wrth gerdded, mynd ar olwynion neu feicio yn eu hardal leol, yn enwedig y tu allan i fisoedd yr haf. 

Roedd eu gwaith yn galw, ymhlith pethau eraill, am gyflwyno a hyrwyddo’n effeithiol gynlluniau i gefnogi pobl ifanc i gael mynediad at offer fel beiciau, yn ogystal â mwy o fuddsoddi mewn llwybrau teithio llesol, gyda ffocws ar wella diogelwch a hygyrchedd. 

Fe wnaethon nhw nodi’n fanylach beth hoffen nhw weld, sef: 

      mwy o lwybrau beicio, cerdded a mynd ar olwynion 

      mwy o lonydd beiciau ar wahân 

      gwelliannau i gyflwr llwybrau a phalmentydd 

      cynnydd yn y cyfleusterau diogel i barcio beiciau mewn cymunedau, yn enwedig mewn lleoliadau addysg. 

Hoffwn amlygu yma hefyd fod gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn ardderchog, ond rwy’n teimlo na wneir defnydd digonol ohono, gan nad oes mecanwaith ffurfiol i Lywodraeth Cymru ymateb i’w hadroddiadau.  

Mae eu niferoedd ymgysylltu’n uchel ac maent yn cwmpasu Cymru gyfan. Pan gyflwynodd aelodau faterion i’r Pwyllgor Deisebion ar gyfres o ddeisebau cysylltiedig oedd yn ymwneud â materion trafnidiaeth, fe wnaeth y Cadeirydd ar y pryd, Jack Sargeant AS, y sylw y gallai llawer o dystion eraill ddysgu oddi wrthynt oherwydd eu bod wedi paratoi mor drylwyr ac yn cyflwyno’u pwyntiau allweddol yn glir. Mae lefel gyffredinol isel yr ymwybyddiaeth o’u gwaith gwych yn peri siom, ac rwy’n gweld y ffaith nad yw hynny’n cael ei lywodraethu’n fwy cadarn fel rhywbeth sy’n amharchu’r aelodau unigol a’r sefydliad yn ei waith – rydym yn hynod ffodus i gael senedd ieuenctid gweithgar fel rhan o fywyd sifil Cymru, ac mae ei haelodau a’r etholwyr y maent yn eu cynrychioli yn haeddu cael clywed eu barn ac ymateb yn fanwl i’w hargymhellion.

Hoffwn weld pwyllgorau’r Senedd yn codi’r pwynt hwn gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd sefyllfa gryfach o ran atebolrwydd a thryloywder wrth ymateb i’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y gwaith pwysig hwn.  

 

Cynnydd o ran nodau Teithio Llesol

Mae’r darnau yma o waith ymgysylltu yn amlygu’r gwirionedd nad yw cerdded a beicio, gwaetha’r modd, wedi dod yn ffordd fwyaf naturiol a normal i blant deithio o gwmpas yng Nghymru. Mae hynny’n eistedd ochr yn ochr â data a gasglwyd trwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, oedd yn dangos mai 51% yn unig o oedolion (16+ oed) oedd yn cerdded, a 6% o oedolion (16+ oed) oedd yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol. Bydd diffyg dewisiadau teithio llesol i oedolion yn anochel yn effeithio ar ddewisiadau teithio plant yn ogystal. 

Mae’r weledigaeth ar gyfer y Ddeddf yn rhagweld hefyd y byddai teithio llesol yn digwydd ochr yn ochr â mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, wrth i bobl gerdded neu feicio i leoliadau i gwrdd ag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus. Rwyf wedi amlygu droeon fy mhryderon ynghylch y diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus addas, fforddiadwy i blant a phobl ifanc; i’w cefnogi i gyrraedd yr ysgol a’r gwaith, yn ogystal ag ar gyfer cyfleoedd hamdden. 

Ym mis Mawrth 2025 fe wnes i groesawu’r cyhoeddiad ynghylch peilota tocynnau bws am £1 i bobl ifanc o dan 21 oed o fis Medi 2025, fel cam gwych i’r cyfeiriad cywir a fyddai’n cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau plant ledled Cymru. Fodd bynnag, ers hynny mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cynllun tocynnau teithio hwn yn berthnasol i bobl ifanc 16-21 oed yn unig. Er y bydd o gymorth i’r grŵp penodol hwnnw gael mynediad at addysg bellach/uwch a chyfleoedd cyflogaeth, ni fydd yn gwneud unrhyw beth i gefnogi taith plant a phobl ifanc i’r ysgol, a allai orfod newid i deithiau yn y car oherwydd diffyg dewisiadau amgen addas. 

Rwyf wedi gwneud cais am gopi o’r Asesiad Effaith ar Hawliau Plant (CRIA) ar gyfer y penderfyniad hwn, ac rwy’n disgwyl ymateb i hynny gan y Llywodraeth.

Mewn cyd-destun ariannol sy’n parhau’n heriol, mae llawer o rieni nad yw eu plant yn gymwys i gael eu cludo am ddim yn gorfod dewis rhwng talu am docyn bws neu frecwast, dim ond i sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd eu haddysg.  

Does dim eithriadau mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim; rydyn ni wedi clywed am blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn gorfod talu £3.80 y dydd i fynd i’r ysgol, ac yn cyrraedd pwynt tua diwedd yr wythnos lle nad yw mynd i’r ysgol yn fforddiadwy bellach, sy’n golygu bod y plentyn yna wedyn yn colli eu pryd poeth di-dâl y diwrnod hwnnw yn ogystal. Pan fo teithiau i’r ysgol yn hir a/neu dros dir anaddas, mae hynny’n atal teithio llesol rhag bod yn opsiwn realistig i lawer o ddisgyblion oherwydd pryderon diogelwch. 

Yr Arolwg Teithio Cenedlaethol

Nid oeddwn yn ymwybodol o’r Arolwg Teithio Cenedlaethol cyn i’r ymgynghoriad hwn gael ei lansio. Ers hynny rwyf wedi darganfod mai arolwg trwy wahoddiad yn unig ydyw, sydd i’w gwblhau dim ond gan aelodau 16+ oed yr aelwyd dan sylw.  

Droeon a thro mae’r swyddfa hon wedi mynegi pryder ynghylch ymarferion ymgysylltu sy’n atal plant a phobl ifanc arfer eu hawl i gael eu clywed mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, naill ai’n anuniongyrchol oherwydd mecanweithiau ymgynghori amhriodol/anhygyrch, neu fel yn yr achos hwn, ac yn achos yr Arolwg Cenedlaethol ehangach, yn uniongyrchol oherwydd bod plant yn anghymwys i ymateb. 

Er mwyn cyflawni’r newid moddol a ragwelir gan y Ddeddf Teithio Llesol a chynlluniau a chanllawiau cysylltiedig, mae rhaid i blant a phobl ifanc fod yn rhan o’r newid.  

Mae gan blant hawl hefyd i leisio barn ar unrhyw faterion sy’n effeithio arnyn nhw, ac mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â phlant yn unol â’u cyfrifoldebau o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.  Mae’n aneglur sut mae’r dyletswyddau hynny’n cael eu cyflawni yng nghyswllt Teithio Llesol pan nad oes mecanwaith cyfranogiad uniongyrchol i blant ar gyfer yr arolwg teithio cenedlaethol. 

Mae plant a phobl ifanc heb eu cynnwys eto chwaith yn y gwaith ar gyfer y Llwybr Newydd na’r papur gwyn ar wasanaethau bysiau. Mae swyddogion y Llywodraeth yn ein sicrhau y bydd gwaith ymgysylltu’n digwydd wedi i’r Bil Bysiau gael ei dablu, ac rydyn ni’n ddiweddar wedi cynnal ymarferiad ymgysylltu llwyddiannus gyda Thrafnidiaeth Cymru a’n hymgynghorwyr ifanc, ond mae llawer o waith datblygu polisi wedi digwydd yn y fan hon heb gynnwys plant a phobl ifanc yn uniongyrchol hyd yma. 

Cyflwynwyd gan:

 

Rocio Cifuentes MBE

Comisiynydd Plant Cymru